Gweithiwr Cymorth - Adran Achosion Brys
Lleoliad: Ysbyty Morriston, Abertawe
Cyflog: £13.45 yr awr
Oriau: Dim oriau gwarantedig, yn ôl yr angen – Mae’r sifftiau yn dydd Llun i ddydd Gwener 10:00 - 18:00 heblaw Gwyliau Banc
Cytundeb: Achlysurol
Yn anffodus, ni allwn gynnig nawdd (sponsorship) ar gyfer y rôl hon.
Allwn chi fod y presenoldeb tawel a gofalgaraf y mae rhywun ei angen yn eu cyfnod argyfwng?
Ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth o'r eiliad y daw rhywun i'r adran brys?
Fel Gweithiwr Cymorth, byddwch chi'n gweithio mewn ysbyty, gan gynnig cymorth ymarferol a emosiynol i gleifion, eu teuluoedd, a'r staff. Eu cefnogi i fyw'n annibynnol. Allwch chi fod y person sy'n dod ag esmwythder, eglurder, a caredigrwydd pan fydd ei angen fwyaf?
Beth fydd diwrnod ym mywyd Gweithiwr Cymorth yn ei olygu?
- Helpu cleifion gydag amserau prydau bwyd, lluniaeth ac eitemau cysur fel blancedi neu glustogau.
- Darparu cymorth un-i-un i gleifion â dementia, dryswch neu drallod emosiynol.
- Cynnig cymorth profedigaeth a chyfeirio cleifion at wasanaethau pellach.
- Helpu cleifion i ddychwelyd adref yn ddiogel, gan gynnwys trefnu cludiant a gwaith dilynol.
Beth fydd ei angen arnoch i fod yn Weithiwr Cymorth llwyddiannus?
- Hyder wrth weithio mewn amgylchedd ysbyty prysur, yn enwedig yn yr adran achosion brys.
- Agwedd ofalgar a thawel, ynghyd â sgiliau cyfathrebu cryf a gwydnwch emosiynol.
- Y gallu i asesu anghenion, dilyn cynlluniau cymorth a gweithio'n annibynnol.
- Gallu naturiol i feithrin ymddiriedaeth a chynnig sicrwydd i bobl sydd mewn trallod.
Diddordeb? Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23:59 ar 18 Hydref 2026
Yn gyfnewid am eich ymrwymiad a'ch arbenigedd, byddwch yn cael:
- Gweithio hyblyg: Gweithio o bell ac mewn ffordd hybrid, oriau hyblyg, oriau cywasgedig, a rhannu swyddi.
- Gwyliau: 36 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc) ynghyd â'r opsiwn i brynu gwyliau ychwanegol.
- Cynllun Pensiwn: Pensiwn cyfrannol o hyd at 6%.
- Llwyfan Cydnabod: Gall rheolwyr wobrwyo gwaith gwych gyda thalebau siopa.
- Gostyngiadau: Gostyngiadau trwy ein Reward Gateway, Blue Light Card, Tickets for Good, a mwy.
- Cymorth Lles: Cefnogwyr Cymheiriaid, CiC (EAP) ac Ap Headspace.
- Dysgu a Datblygu: Amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa a dysgu.
- Gwasanaeth Llunio Ewyllys: Mynediad at wasanaeth llunio ewyllys am ddim.
- Marwolaeth wrth y Swydd: Swm cyfanredol di-dreth yn cael ei dalu i'ch buddiolwr os byddwch yn marw.
- Cycle2Work: Prydlesu beic trwy'r cynllun.
Rydym yn falch o fod yn gyflogwr sy'n hyrwyddo hyder o ran anabledd a gofalwyr (Disability Confident a Carers Confident).
Rydym wedi ymrwymo i greu diwylliant cynhwysol, teg sy'n canolbwyntio ar les, lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi, a lle gallant ffynnu. Wedi'n harwain gan ein Strategaeth Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Lles, rydym yn meithrin ymdeimlad o berthyn a lles seicolegol a chorfforol, ac yn gweithio i ddileu rhwystrau rhag cyfleoedd teg. Wedi'n seilio ar dosturi ac arferion gwrth-hiliol, rydym yn gwrando ar leisiau amrywiol, yn gwerthfawrogi profiad bywyd ac yn creu amgylcheddau lle gall staff a gwirfoddolwyr lwyddo. Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o sefydliad sy'n arwain gyda gofal, yn dathlu gwahaniaeth ac yn helpu pawb i lwyddo.
Gyda'n gilydd, ni yw ymatebwyr brys y byd.